|
Mae Llwybr Ystwyth yn agored
i feicwyr, cerddwyr ac i geffylau. Mae’n
34km o hyd, a bydd yn cysylltu Aberystwyth a
Thregaron. Mae’r llwybr yn brosiect Amcan
1 a fydd yn para am dair blynedd ac fe’i
hariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd
a Chronfa Adfywio Lleol Cyngor Sir Ceredigion,
gyda chefnogaeth sefydliadau eraill megis Cyngor
Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth, Dwr
Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru.
Ar y cyfan, bydd yn llwybr oddi-ar y ffordd,
a bydd yn defnyddio’r hen reilffordd,
Hawliau Tramwy cyhoeddus a lonydd gwyrddion
tawel. I ddweud y gwir, mae’r llwybr yn
un hwylus dros ben, sy’n eich tywys ar
daith hamddenol iawn drwy ardaloedd gwledig
o harddwch neilltuol sy’n cynnwys dwy
Warchodfa Natur Genedlaethol, Pendinas ger Aberystwyth
a Chors Caron ger Tregaron a 10 erw o goedwigoedd
collddail ger Trawscoed.

Trawsgoed:
Llwybr Ystwyth: Ewch at yr Adran
Llwybrau am fap manwl.
Y nod oedd creu llwybr a fyddai’n ddiogel
ac yn hygyrch i feicwyr, cerddwyr, i bobl sy’n
marchogaeth ac i bobl anabl. Yn y pen draw,
bydd Llwybr Ystwyth yn rhan o Lwybr 81, Rhwydwaith
Beicio Sustrans a Llwybr 2, rhwydwaith beicio
strategol Ceredigion, sydd yn cysylltu â
llwybrau eraill drwy’r sir (Gweler yr
adran ‘Llwybrau’).
Pam aros? Ewch ar eich
beic a dewch i ddarganfod Ceredigion!
Er mwyn gwneud eich profiad yn un bythgofiadwy,
fe’ch anogir i chi brynu llyfryn
Llwybr Ystwyth, sy’n amlinellu’r
rhannau di-draffig gorau ar hyd y llwybr, sydd
yn arbennig o addas ar gyfer teuluoedd â
phlant bach a’r rheiny sy’n rhoi
cynnig arni am y tro cyntaf. Mae mapiau hefyd
ar gael ar gyfer Llwybr Rheidol a’r llwybrau
gwyliau beicio am £6.49. Cewch gopi yn
y rhan fwyaf o Ganolfannau Croeso.
|