Hafan
Ynglyn a Ni
Hanes
Bywyd Gwyllt
Llywybrau
Galeri
Twristiaeth
Cod Beicio
Gwe Gam
Fforwm
Cysylltwch a Ni
Cysylltiadau Defnyddiol
Saesneg

Symud o gwmpas yn Gyflym:

Nodwch y dudalen hon
   
IR PLANT!











Mae’r llwybr beicio yn rhedeg drwy ffordd yr Hen Rheilffordd ar hyd y rheilffordd nad yw’n cael ei defnyddio bellach gan gynnig tro bach hamddenol ac ymlaciol ynghyd â’r cyfle i fwynhau nifer o’r adar unigryw ar y safle. Os ydych yn hoffi uchder yna fe allwch syllu ar olygfeydd anhygoel o’r gogledd ddwyrain a’r gors i’r gorllewin o’r twr gwylio. Dylech ddisgwyl i’r daith gymeryd tua 30 munud pob ffordd. Mae’r ffordd yn addas i gadeiriau olwyn. Mae trwydded y Warden yn caniatau mynediad ar y daith Glan’rafon i’r rhai hynny gyda diddordeb arbennig ym mywydeg y gors (nid oes angen trwydded arnoch i fynd ar y llwybr beic yn unig). Mae’r drwydded yn sicrhau eich diogelwch ac yn help i amddiffyn y cynefin a’i fywyd gwyllt. Gall y daith gron gymeryd i fyny hyd at 4 awr a rhaid sicrhau eich bod wedi paratoi yn ddigonol ac yn addas. Mae esgidiau cryf a dillad sy’n dal dwr yn hanfodol beth bynnag fo’r tywydd.

Llwybr Ystwyth, map o warchodfa natur Cors Caron.

Cliciwch yma am olwg fanylach o’r ma>>

 

 

 

 

 

Cyfleustra Addysgol: Mae’r gors de ddwyrain yn cynnig cyfle i fyfyrwyr i astudio ecoleg y cynefin. Mae’r cyfleustra addysgol wedi ei gynllunio’n benodol ar gyfer myfyrwyr hyn ac arbenigwyr. Rhaid i bartion o fyfyrwyr ddanfon cais at y Warden o flaen llaw gogyfer â thrwydded a hynny oherwydd i’r cynefin fod yn fregus. Mae llawlyfr disgrifiadol hefyd ar gael.

Plant Ysgol: Mae yna groeso i blant ysgol i ddefnyddio llwybr yr Hen Rheilffordd, sydd o bosib yn fwy addas i’w anghenion. Gallwch argraffu cwisiau neu rhoi cynnig ar ein” Rwy’n gweld….” sydd ar gyfer y llwybr (cliciwch ar yr adran I’r Plant gogyfer â’r wefan i hyn) ac at bwrpas mynd â hwy gyda chi i’r rhai dan 12 oed.

AM FWY O WYBODAETH/AM LYFRYN AM GORS CARON CYSYLLTWCH â:

Cors Caron

C: Pam fod Cors Caron yn cael ei hamddiffyn?

A: Nid yw corsydd wedi dianc o’n hawydd i ecsploitio pob erw o dir. Trwy gydol y ganrif yma, mae tiroedd mawn wedi bod yn gyflym diflannu gan i’w pridd organig cyfoethog gael ei adennill a’i wrteithio gogyfer ag amaeth a choedwigaeth, neu’n fwy diweddar efallai’n ffynhonell o fawn i arddwriaeth. Mae 93% o diroedd mawn cyfan wedi cael eu dinistrio gan y fath datblygiadau. Ond ychydig sydd ar ol yn gyfan.

Cerfiadau pren yng Nghors Caron