Mae canolfan Bwlch Nant Yr Arian, o eiddo’r
Comisiwn Coedwigaeth, wedi ei leoli mewn safle
glan llyn godidog gan edrych dros Ddyffryn Melindwr
gydag arfordir Ceredigion yn y pellter. Yn ogystal
â’r golygfeydd, rhaid mai’r
prif atyniad yw’r Barcud Coch. Ceir sesiynnau
Bwydo’r Barcud Coch mewn mannau o amgylch
y llyn ar hyd y flwyddyn, am 2 y prynhawn yn
y gaeaf a 3 y prynhawn yn yr haf. Yn ystod misoedd
y gaeaf, gallwch weld hyd at 100 o farcudiaid
yn hedfan o gwmpas a thua 40 yn yr haf.
Hefyd mae yna barau preswyl o farcudiaid yn
yr ardal felly mae’r posibiliadau o weld
yr aderyn ysglafaethus yma fu unwaith yn brin,
yn uchel iawn ar unrhyw adeg.

Llwybrau
Cyfeirbwynt:
-
Llwybr Glan llyn sy’n
addas i bob oed, cadeiriau olwyn a phramiau
-
Taith Gron Byr 1.5 milltir
-
Taith Gron Hir - 5.5 milltir
Mae yna hefyd tri llwybr
beiciau mynydd yma-ym mysg y
gorau ym Mhrydain-a dau llwybr ceffylau (5 milltir
a 23 milltir). Yn ogystal â chanolfan
ymwelwyr gyda gwybodaeth ar fywyd gwyllt lleol,
mae gan y ganolfan ystafell de a lle chwarae
awyr agored bychan i blant.
-
Cyfeiriad
Bwlch Nant yr Arian Forest, Llywernog, Ponterwyd,
Aberystwyth, SY23 3AD.
-
Cyfarwyddiadau
Ar yr A44 heol Aberystwyth Llangurig , tua
10 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth.
Ma eyna amryw o arwydd-byst, ac os ydych
yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae
bws 501 o Aberystwyth i Bonterwyd yn stopio
ger y fynedfa i’r maes parcio.
- Ffon
01970 890694
- Ar Agor:
Ebrill Medi: 10y bore – 5 yr hwyr pob
dydd Hydref Mawrth: 11y bore tan fachlud haul
pob dydd.
|